Pan fues i 11 cytunais i gwrdd â fy mam yn y caffi yng ngorsaf bysiau Caergrawnt. Does dim byd rhyfeddol am hynny basech chi'n meddwl ond....y tro cyntaf erioed oedd hi a hefyd des i syth yn ôl i Loegr ar ôl gwyliau yn Aberystwyth.
Roeddwn i'n fachgen annibynnol siŵr o fod, achos mod wedi teithio o Aber i Gaergrawnt ar fy mhen fy hun.
Eisteddodd fy mam yn y caffi bach yn wisgo dillad pinc neu goch fel arfer.
Teimlais i dipyn bach yn ofnus, er bod fy mam yn gwenu.
Ond, aeth hi yn syth at y targed.
' Mike.....ry'n ni'n dal y bws i'n tŷ newydd ym mhentref bach o’r enw Horseheath. Dw i wedi penderfynu ar adael dy dad, ac mae e'n dal i fyw yn y ddinas. Beth wyt ti'n meddwl amdano?'
Ces i sioc fawr ond....doeddwn i ddim wedi gweld fy nhad cymaint dros dair blynedd, ers iddo cael cwrs fel llyfrgellydd yn Loughborough.
Gwelais i fwy o’n lletywr ni, dyn busnes yn cael cymaint o sylw oddi wrth fy mam!
Dweud y gwir, doeddwn i ddim yn agos at fy rheini o gwbl : fy nhad gyda phroblemau iechyd meddwl a mam gyda blaenoriaethau eraill. Yn union, roeddwn i’n fwy agos at fy neiniau a theidiau.
Roedd fy mhen fel nyth gwenyn : swnllyd iawn a llawn symudiad.
Doedd enw'r pentref ddim yn swnio 'n ddeniadol : 'Horseheath'.
Dw i ddim yn cofio fy ateb y diwrnod hwnnw, ond cofio'r daith mewn bws trwy le ar ôl lle : taith i fywyd newydd.
JAMIE YN Y CAFFI
‘ Shwmae !’ i bawb
meddai Jamie yn y Caffi
lle cwrdd â chyfeillion,
yn coginio Pice ar y maen,
mae Twt Lol tu ôl i’r gwydr.
Does dim ‘ lentyls mewn cawl’
ar ei fwydlen ddwyieithog
ac mae’r gitâr yn eistedd
fel Prifardd pwysig
yn barod am y cleddyf.
Mae e’n siarad nawr
am ei fywyd newydd
heb ffiniau fel y môr,
gan anelu at lawysgrif cerdd
ar yr hen orwelion.