Ers dwy a hanner o flynyddoedd dw i’n wedi bod yn mynd i ddosbarth Cymraeg yn y YMCA Hirwaun.
Mae’r athrawes Sue Jenkins yn gyfeillgar ac amyneddgar iawn. Mae Sue yn dod o Hirwaun ac yn siarad llawer am ei theulu yn y dosbarth.
Mae’r rhan fwyaf o bobol yna yn dod o Aberpennar ac fi yw’r unig dyn!
Yn y dechrau, roedden ni’n astudio lefel Sylfaen, ond nawr dyn ni’n astudio lefel Canolradd 2 ; hefyd, rydyn ni’n darllen y llyfr ‘Tocyn Lwcus’ gan Bob Eynon bob wythnos. Mae’r storiau yn eitha da, ond tipyn teimladol yn fy marn i.
Dw i’n wrth fy modd yn darllen llyfrau Cymraeg, yn arbennig barddoniaeth ac y storiau gan Lois Arnold. Fy hoff lyfr ydy ‘E-Ffrindiau’ gan Lois Arnold ac ar hyn o bryd dw i’n mwynhau y nofel ‘Pwy Sy’n Cofio Sion?’ gan Mair Evans.
Bydd rhai o bobol yn y dosbarth yn sefyll yr arholiad o ddiwedd y cwrs ond nid fi, oherwydd dw i eisiau canolbwyntio ar rhwybeth arall.
Fy uchelgais i ydy ysgrifennu llawer o farddoniaeth diddorol yn Gymraeg .Llynedd helpodd Sue fi wrth ysgrifennu cerdd ar gyfer y gadair yn Eisteddfod y Ddysgwyr, Rhondda-Cynon-Taf. Enw fy ngherdd oedd ‘Croesi’ ond, yn anffodus, doeddwn i ddim yn ennill.
Sut bynnag, roedd y cerdd wedi cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn ‘Lingo’ ac roeddwn i’n gyffrous.
Gobeithio bodmwy o hyder gyda fi nawr i siarad a ysgrifennu Cymraeg, ac diolch o galon i Sue am ei gwersi frwdfrydig.
Ysgrifennais i ‘r cerdd syml hon am fy mamgu ; teisen crwn oedd fy hoff teisen erioed!
TEISEN CRWN
Teisen Mamgu,
teisen teulu,
ond ble mae’r rysait nawr.......
ydy e wedi diflannu?
Edrych fel olwyn,
arogl fel rhosyn,
blas fel menyn,
llawn o afalau,
teisen teulu,
teisen Mamgu.
Brown fel y tir,
dw i’n cofio ‘n glir
fy Mamgu yn brysur
gyda blawd a siwgar.
Eisiau cofio y swyn unwaith eto,
y hud yn ei dwylo,
ei gariad wrth bobi,
teisen teulu,
teisen Mamgu.